Selkie ‒ (Datblygu llwybr masnacheiddio symlach ar gyfer y diwydiant Ynni Môr Cynaliadwy)
Gallai'r tonnau a'r llanw o amgylch Iwerddon a Chymru ddarparu llawer iawn o ynni carbon isel. Mae cwmnïau lleol sy'n adeiladu dyfeisiau i harneisio'r adnodd naturiol hwn yn creu swyddi ac yn allforio i bedwar ban byd eisoes. Fodd bynnag, un o'r rhwystrau sy'n llesteirio datblygiad yn y maes yw diffyg cyllid ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu ac ar gyfer treialu prosiectau arddangos ar y môr. Un o'r rhwystrau eraill yw diffyg gweithdrefnau a chydrannau cyffredin (er enghraifft, angorau gwely'r môr), a'r ffaith bod llawer o gwmnïau technoleg yn gwneud yr un pethau mewn ffyrdd fymryn yn wahanol.
Felly, nodau'r prosiect yw:
1. Sefydlu rhwydwaith trawsffiniol o BBaChau a chwmnïau yn y gadwyn gyflenwi sy'n gweithio ym maes Ynni'r Môr.
2. Cynnal prosiectau ymchwil a datblygu ar y cyd rhwng y diwydiant a'r byd academaidd;
3. Trosglwyddo gwybodaeth a fydd yn deillio o waith ymchwil a datblygu i randdeiliaid/BBaChau sy'n gweithio yn niwydiant ynni'r tonnau a'r llanw, gan ddatblygu'r sector dechnoleg yn ei gyfanrwydd wrth wneud hynny;
4. Cynorthwyo BBaChau Iwerddon a Chymru i symud yn eu blaen ar hyd yn llwybr masnacheiddio.
Cyllideb
| Partner | ERDF (€) | Cyfanswm y gyllideb ar gyfer y prosiect | 
|---|---|---|
| Coleg Prifysgol Corc | 1,991,400 | 2,489,250 | 
| Prifysgol Abertawe | 1,484,600 | 1,855,750 | 
| DP Energy Ireland Ltd | 198,500 | 248,125 | 
| Gavin and Doherty Geosolutions | 175,500 | 219,375 | 
| Menter Môn | 182,500 | 228,125 | 
| Fforwm Arfordir Sir Benfro | 183,500 | 229,375 | 
Lleoliad y Gweithgaredd
Iwerddon
- Corc
 - Dinas Dulyn
 
Cymru
- Ynys Môn
 - Sir Benfro
 - Abertawe
 
Manylion cyswllt y Partneriaid
| Name | Organisation | Telephone | |
|---|---|---|---|
| Dr Jimmy Murphy | University College Cork | Jimmy.murphy@ucc.ie | |
| Dr Gordon Dalton | University College Cork | G.Dalton@ucc.ie | |
| Prof Ian Masters | Swansea University | i.masters@swansea.ac.uk | |
| Niamh Kenny | DP Energy Ireland Ltd | niamh.kenny@dpenergy.com | |
| Paul Doherty | Gavin and Doherty Geosolutions | pdoherty@gdgeo.com | |
| Dafydd Gruffydd | Menter Mon | dafydd@mentermon.com | |
| David Jones | Pembrokeshire Coastal Forum | david.jones@pembrokeshirecoastalforum.org.uk |